Beicio beunyddiol i bawb

Croeso i Wythnos Beicio Tîm Prydain Werdd – dathliad cenedlaethol o feicio!

Cynhelir Wythnos Beicio Tîm Prydain Werdd 2011 yn genedlaethol ar 18 – 26 Mehefin.

Wythnos Beicio Tîm Prydain Werdd yw digwyddiad beicio torfol mwyaf y DU – y llynedd, cymerodd bron i hanner miliwn o bobl ran mewn digwyddiadau hyd a lled y wlad. Y nod yw cael mwy o bobl i feicio, yn amlach, ac mae’r digwyddiad yn cynnig rhywbeth i bawb -  o deuluoedd, ysgolion a chwmnïau, i feicwyr sydd wedi hen arfer a’r rheini sydd erioed wedi beicio o’r blaen.

Allech chi fod yn un o'r Trefnwyr Digwyddiadau eleni?

Cofrestrwch eich digwyddiad(au) heddiw a byddwch yn rhan o'r digwyddiad cenedlaethol hwn. Trefnwyr digwyddiadau yw anadl einioes yr wythnos, a hebddynt hwy, ni fyddem ni’n gallu darparu ystod mor wych o ddigwyddiadau hyd a lled y DU.

 

Yr Ymgyrch Fwyaf i Drwsio Beics ym Mhrydain

Mae Wythnos Beicio Tîm Prydain Werdd yn cynnal yr ymgyrch fwyaf i drwsio beics ym Mhrydain eleni – ymgais uchelgeisiol i geisio trwsio cymaint o feics â phosibl mewn wythnos.

 

Latest News
Words from a Bike Week organiser

The background to the organisation of the ride I organised was that, a...

Posted: 29 Nov 2011 | More

Dates for 2012

The Team Green Britain Bike Week 2012 dates have now been announced.&n...

Posted: 3 Nov 2011 | More

Follow Team Green Britain Bike Week
Connect with us onFollow us on Twitter
Posted: 4:33pm July 8, 2011
Has anyone got photos of #TGBBikeWeek they want to show off to the cycling community? If so, chuck 'em our way and we'll retweet! #cycling